Cynllun Gwobrwyo Beicio i Fi
Mae ein cynllun gwobrwyo ‘Beicio i Fi’ yn newydd ar gyfer 2017, mae’n cynnwys tri lefel cysylltiedig, sef: 1 -Cydbwysedd, 2 -Pedalu, , a 3 - Reidio.
Mae pawb sy’n cymrd rhan yn cael llyfr log ac yn derbyn tystysgrif a bathodyn ar ôl cwblhau pob lefel.
Mae Beicio i Fi yn annog defnyddwyr i osod nodau a thargedau sy’n addas i’w gallu a ffitrwydd personol.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gosod eu nodau/heriau personol ac yn ystod pob sesiwn byddant naill ai yn cwblhau set o heriau neu’n gweithio tuag at eu cyflawni.
Er mwyn symud ymlaen i’r lefel nesaf, mae’n rhaid cwblhau o leiaf chwe sesiwn a rhaid i bawb gwblhau eu heriau.
Mae staff a gwirfoddolwyr wrth law i gynnig arweiniad ac anogaeth.
Os hoffech ymuno â Chynllun Gwobrwyo Beicio i Fi, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, siaradwch gydag aelod staff neu un o’n gwirfoddolwyr yn Pŵer Pedal neu ffoniwch ni ar 07908 325508 / 01978 757524

